11 Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad!Bydd yn rhwygo popeth oddi arniac yn ei gadael yn noeth.Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”
12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew– dwy goes, neu ddarn o'r glust –dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria.Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!
13 Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus—
14 “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela,bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel.Bydd y cyrn ar gorneli'r alloryn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.
15 Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd.Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion.Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.