3 Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilyddheb fod wedi trefnu i gyfarfod?
4 Ydy llew yn rhuo yn y goedwigpan does ganddo ddim ysglyfaeth?Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffauoni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
5 Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwydos nad oes abwyd yn y trap?Ydy trap ar lawr yn cau yn sydynheb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?
6 Ydy pobl ddim yn dychryn yn y drewrth glywed y corn hwrddyn seinio fod ymosodiad?Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinasheb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?
7 Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim bydheb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.
8 Pan mae'r llew yn rhuo,pwy sydd ddim yn ofni?Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad,felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?
9 Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdodac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samariai weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,a'r gormes sy'n digwydd yno.