2 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd ar ei lw,mor sicr â'i fod yn sanctaidd:“Gwyliwch chi! Mae'r amser yn dod pan fyddan nhw'neich arwain chi i ffwrdd â bachau –pob copa walltog gyda bachau pysgota.
3 Byddwch chi'n cael eich llusgo allan o'r ddinasdrwy'r tyllau yn y wal gyferbyn a'ch tai –Byddwch chi'n cael eich taflu ar y domen sbwriel!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
4 “Dewch i'r cysegr yn Bethel i bechu yn fy erbyn i!Dewch i'r cysegr yn Gilgal, a phechu mwy fyth!Dewch i gyflwyno eich aberth yn y borea thalu'r degwm y diwrnod wedyn.
5 Dewch i losgi eich offrwm diolch gyda bara sydd â burum ynddo!Dewch i wneud sioe wrth gyflwyno eich offrwm gwirfoddol!Dych chi wrth eich bodd yn gwneud pethau felly, bobl Israel.”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
6 “Fi oedd yr un ddaeth â newyn arnoch chi yn eich holl drefi;doedd gynnoch chi ddim i'w fwyta yn unman.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7 “Fi rwystrodd hi rhag glawiopan oedd y cnydau angen glaw i dyfu.Roeddwn i'n rhoi glaw i un drea dim glaw i dre arall.Roedd hi'n glawio ar un cae,ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwblac roedd y cnwd yn gwywo.
8 Roedd pobl dwy neu dair o drefiyn llusgo'u ffordd i dre arall,yn y gobaith o gael dŵr i'w yfed,ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.