Amos 4:7-13 BNET

7 “Fi rwystrodd hi rhag glawiopan oedd y cnydau angen glaw i dyfu.Roeddwn i'n rhoi glaw i un drea dim glaw i dre arall.Roedd hi'n glawio ar un cae,ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwblac roedd y cnwd yn gwywo.

8 Roedd pobl dwy neu dair o drefiyn llusgo'u ffordd i dre arall,yn y gobaith o gael dŵr i'w yfed,ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

9 “Dyma fi'n eich cosbi chi drwy anfon haint a llwydni ar eich cnydau.Dro ar ôl tro cafodd eich gerddi a'ch gwinllannoedd,eich coed ffigys a'ch coed olewydd,eu dinistrio'n llwyr gan blâu o locustiaid.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10 “Dyma fi'n anfon afiechydon i'ch poenydio,fel y plâu yn yr Aifft.Dyma fi'n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel,a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch.Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

11 “Dyma fi'n dinistrio rhai ohonoch chifel gwnes i ddinistrio Sodom a Gomorra.Roeddech chi fel darn o bren yn mudlosgiar ôl cael ei gipio o'r tân.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12 “Felly, dw i'n mynd i dy gosbi di, Israel.Dyna dw i'n mynd i'w wneud,felly, bydd barod i wynebu dy Dduw!”

13 Edrych! Duw wnaeth y mynyddoedd, a chreu y gwynt.– y Duw sydd wedi dweud wrth bobl beth sydd ganddo eisiau –Fe sy'n troi y wawr yn dywyllwch,ac yn rheoli popeth ar y ddaear—yr ARGLWYDD ydy ei enw e, y Duw holl-bwerus!