10 Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
11 Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwma dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,gewch chi ddim byw ynddyn nhw.Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
12 Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,ac wedi pechu'n ddiddiwedddrwy gam-drin pobl onest,a derbyn breib i wrthod cyfiawnderi bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
13 Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,achos mae'n amser drwg.
14 Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,a chewch fyw!Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,gyda chi go iawn(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)
15 Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.
16 Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw holl-bwerus:“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.