16 Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw holl-bwerus:“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.
17 Bydd pobl yn wylo'n uchel,hyd yn oed yn y gwinllannoedd,achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
18 Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaenat y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod!Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw?Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!
19 Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lewac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod.Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel,ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
20 Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod –diwrnod tywyll fydd e, dim un golau!Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!
21 “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi,ac yn eu diystyru nhw.Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi.
22 Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi,ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!