6 Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw!Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tânac yn llosgi Bethel yn ulw;a fydd neb yn gallu diffodd y tân.
7 Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw,ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!
8 Duw ydy'r un wnaeth y sêr –Pleiades ac Orïon.Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore,ac yn troi'r dydd yn nos dywyll.Mae e'n cymryd dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
9 Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!
10 Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
11 Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwma dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,gewch chi ddim byw ynddyn nhw.Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
12 Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,ac wedi pechu'n ddiddiwedddrwy gam-drin pobl onest,a derbyn breib i wrthod cyfiawnderi bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!