8 Duw ydy'r un wnaeth y sêr –Pleiades ac Orïon.Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore,ac yn troi'r dydd yn nos dywyll.Mae e'n cymryd dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
9 Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!
10 Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
11 Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwma dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,gewch chi ddim byw ynddyn nhw.Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
12 Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,ac wedi pechu'n ddiddiwedddrwy gam-drin pobl onest,a derbyn breib i wrthod cyfiawnderi bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
13 Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,achos mae'n amser drwg.
14 Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,a chewch fyw!Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,gyda chi go iawn(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)