3 Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod.Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais!
4 Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus.Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus,ac yn mwynhau gwledda ar gig oena'r cig eidion gorau.
5 Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl –a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd!
6 Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyniac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau!Ond dych chi'n poeni dim fod dinistryn dod ar bobl Joseff!
7 Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo,a hynny'n fuan iawn!Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben!
8 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun:“Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob,ac yn ffieiddio ei phlastai.Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phoblyn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.
9 Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw.