1 Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd yn creu haid o locustiaid pan oedd y cnwd diweddar yn dechrau tyfu (y cnwd sy'n cael ei blannu ar ôl i'r brenin fedi'r cnwd cyntaf).
2 Roedden nhw'n mynd i ddinistrio'r planhigion i gyd, a dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, plîs maddau! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
3 A dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd,” meddai'r ARGLWYDD.
4 Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd i ddefnyddio tân i gosbi ei bobl. Roedd yn mynd i sychu'r dŵr sydd yn ddwfn dan y ddaear, a llosgi'r caeau i gyd.
5 Dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
6 Dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r ARGLWYDD.
7 Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi ei hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law.