4 Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd i ddefnyddio tân i gosbi ei bobl. Roedd yn mynd i sychu'r dŵr sydd yn ddwfn dan y ddaear, a llosgi'r caeau i gyd.
5 Dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
6 Dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r ARGLWYDD.
7 Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi ei hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law.
8 Gofynnodd yr ARGLWYDD i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i'n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.
9 Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio'n llwyr. Dw i'n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam hefo cleddyf.”
10 Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud.