10 Bydda i'n troi eich partïon yn angladdaua'ch holl ganeuon yn gerddi galar.Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi,a bydd pob pen yn cael ei siafio.Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab;fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.
11 “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.”Dim newyn am fara neu syched am ddŵr,ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD.
12 Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewini'r Môr Marw yn y de,ac o'r gogledd i'r dwyrain,er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD,ond byddan nhw'n methu.
13 Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryfyn llewygu am fod syched arnyn nhw –
14 Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria,ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!”neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” –byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto.