11 “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.”Dim newyn am fara neu syched am ddŵr,ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD.
12 Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewini'r Môr Marw yn y de,ac o'r gogledd i'r dwyrain,er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD,ond byddan nhw'n methu.
13 Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryfyn llewygu am fod syched arnyn nhw –
14 Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria,ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!”neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” –byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto.