2 A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.
3 Bydd y merched sy'n canu yn y palas yn udo crïo ar y diwrnod hwnnw”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!”
4 Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan,ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad.
5 Chi sy'n mwmblan i'ch hunain,“Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? –i ni gael gwerthu'n cnydau eto.Pryd fydd y dydd saboth drosodd? –i ni gael gwerthu'r ŷd eto.Gallwn godi pris uchel am fesur prin,a defnyddio clorian sy'n twyllo.
6 Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled,a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau.Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!”
7 Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob:“Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi ei wneud.”
8 Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyna phawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.