1 Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn:“Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini'n ysgwyd!Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr,A bydda i'n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel.Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc!
2 Hyd yn oed tasen nhw'n cloddio i lawr i Fyd y Meirw,byddwn i'n dal i gael gafael ynddyn nhw!A tasen nhw'n dringo i fyny i'r nefoedd,byddwn i'n eu tynnu nhw i lawr oddi yno.
3 Petaen nhw'n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel,byddwn i'n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw.A tasen nhw'n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr,byddwn i'n cael y Sarff sydd yno i'w brathu nhw.
4 Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud,byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno.Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhwac nid da.”
5 Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi;a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.