4 Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud,byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno.Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhwac nid da.”
5 Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi;a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.
6 Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoeddac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear.Mae'n galw'r dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
7 “I mi, bobl Israel, dych chiddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft,ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Cretaa'r Syriaid o Cir.”
8 Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD,yn cadw golwg ar y wlad bechadurus.“Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear!Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
9 “Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymynac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd,fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr,a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd.
10 Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel,sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr,‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni,na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’