6 Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoeddac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear.Mae'n galw'r dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
7 “I mi, bobl Israel, dych chiddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft,ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Cretaa'r Syriaid o Cir.”
8 Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD,yn cadw golwg ar y wlad bechadurus.“Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear!Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
9 “Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymynac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd,fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr,a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd.
10 Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel,sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr,‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni,na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’
11 Ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydluteyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion.Bydda i'n ei adfer i fod fel yr oedd yn yr hen ddyddiau.
12 Byddan nhw'n cymryd meddiant etoo'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom,a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n mynd i wneud hyn i gyd.