1 Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD:
2 “ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alwcyn i ti fy ateb i?Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ond dwyt ti ddim yn achub.
3 Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder?Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen?Does dim i'w weld ond dinistr a thrais!Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!
4 Mae'r gyfraith wedi colli ei grym,a does dim cyfiawnder byth.Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed,a chyfiawnder wedi ei dwistio'n gam.”
5 “Edrychwch ar y cenhedloedd,a cewch sioc go iawn.Mae rhywbeth ar fin digwyddfyddwch chi ddim yn ei gredu,petai rhywun yn dweud wrthoch chi!
6 Dw i'n codi'r Babiloniaid –y genedl greulon a gwylltsy'n ysgubo ar draws y bydyn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.