Habacuc 3 BNET

Habacuc yn addoli'r ARGLWYDD

1 Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar “Shigionoth”.

1Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar “Shigionoth”.

2 ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud.Mae'n syfrdanol!Gwna yr un peth eto yn ein dyddiau ni.Dangos dy nerth yn ein dyddiau.Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni!

3 Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman;a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr,ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli.

4 Mae e'n disgleirio fel golau llachar.Daw mellten sy'n fforchio o'i law,lle mae'n cuddio ei nerth.

5 Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen,a haint yn ei ddilyn.

6 Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu;pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn.Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio,a'r bryniau oesol yn suddo,wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.

7 Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig,a llenni pebyll Midian yn crynu.

8 Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD?Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?Wyt ti wedi digio gyda'r môr?Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd?– cerbyd dy fuddugoliaeth.

9 Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.

10 Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.Mae'n arllwys y glaw,a'r storm ar y môr yn rhuoa'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.

11 Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;mae fflachiadau dy saethau,a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.

12 Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,a sathru'r gwledydd dan draed.

13 Ti'n mynd allan i achub dy bobl;i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio.Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib

14 Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.Roedden nhw'n chwerthin a dathluwrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.

15 Roedd dy geffylau yn sathru'r môr,ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu.

16 Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi,a'm gwefusau'n crynu.Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan,a'm coesau'n gwegian.Dw i'n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybiniddod ar y bobl sy'n ymosod arnon ni.

17 Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo,a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan;Pan mae'r coed olewydd wedi methu,a dim cnydau ar y caeau teras;Pan does dim defaid yn y gorlan,nag ychen yn y beudy;

18 Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r ARGLWYDDac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i!

19 Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi,ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carwsy'n crwydro'r ucheldir garw.I'r arweinydd cerdd: ar offerynnau llinynnol.

Penodau

1 2 3