Seffaneia 1 BNET

1 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia. Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda.

Duw yn barnu

2 “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

3 “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid.Dw i am glirio adar a physgod(yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg.)Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaethoddi ar wyneb y ddaear,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4 “Dw i'n mynd i daro Jerwsalema phawb sy'n byw yn Jwda.Dw i am gael gwared ag addoli Baal yn llwyr,a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon.

5 Dw i am gael gwared â'r rhaisy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau,a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDDtra'n tyngu llw yn enw Milcom.

6 A dw i am gael gwared â'r rhaisydd wedi troi cefn arna i, yr ARGLWYDD,a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.”

7 Ust! o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos.Mae'r ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth,ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.

8 “Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r ARGLWYDD,“dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin,a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid.

9 Ar y diwrnod hwnnw bydda i yn cosbi pawbsy'n neidio dros y stepen drws,ac yn llenwi palas eu meistrgyda chyfoeth wedi ei ddwyn trwy drais a gormes.”

10 “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,a sgrechian o ran newydd y ddinas;bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.

11 Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,achos bydd y masnachwyr wedi mynd,a'r rhai sy'n trin arian wedi eu taflu allan.

12 Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’

13 Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,a'u tai yn cael eu chwalu.Maen nhw'n adeiladu tai newydd,ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.Maen nhw'n plannu gwinllannoeddond gân nhw ddim yfed y gwin.”

14 Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos;y dydd mawr – bydd yma'n fuan!Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;sŵn milwyr cryf yn gweiddi crïo.

15 Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;diwrnod o gymylau duon bygythiol.

16 Bydd sŵn y corn hwrdd, y bloeddio a'r brwydroyn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.

17 “Am bod y bobl wedi digio'r ARGLWYDDbydda i'n achosi helbul iddyn nhw!– byddan nhw ar goll fel pobl ddall.Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch,a'u perfeddion ar wasgar fel tail.

18 Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhwar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear.Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dodar bawb drwy'r byd i gyd.”

Penodau

1 2 3