Seffaneia 2 BNET

Galwad i droi at Dduw

1 Dewch, casglwch at eich gilydd,y genedl sydd heb gywilydd.

2 Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir,ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us –Cyn i'r ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi;cyn i'w ddydd barn eich dal chi!

3 Gofynnwch i'r ARGLWYDD eich helpu,chi sy'n cael eu cam-drin yn y wladac sy'n ufudd i'w orchmynion.Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig.Falle y cewch eich cuddio mewn lle saffar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.

Barnu Philistia

4 Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion.Bydd pobl Ashdod wedi eu gyrru i ffwrdd cyn canol dydd,a tref Ecron wedi ei bwrw i lawr.

5 Gwae chi sy'n byw ar lan y môr –bobl Philistia ddaeth o Creta.Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid,mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn:“Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”

6 Bydd yr arfordir yn dir pori –dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.

7 Bydd tir y glannau yn eiddoi'r bobl sydd ar ôl o Jwda;Nhw fydd yn pori ynoac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon.Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw,a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.

Barnu Moab ac Ammon

8 “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdioa phobl Ammon yn enllibio –gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.

9 Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel.“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! –yn llawn chwyn a phyllau halen,ac yn dir diffaith am byth.Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo,a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”

10 Dyna fydd eu tâl am eu balchder,am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD holl-bwerus.

11 Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn,a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim.Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDDyn eu gwledydd eu hunain.

Barnu Gogledd-Ddwyrain Affrica

12 A chi, bobl dwyrain Affrica,bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.

Barnu Asyria

13 Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r gogleddac yn dinistrio Asyria.Bydd dinas Ninefe yn adfeilion;yn sych fel anialwch diffaith.

14 Bydd pob math o anifeiliaid gwylltionyn gorwedd yn ei chanol.Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion,ac yn hwtian yn y ffenestri.Bydd rwbel ar bob rhinioga'r waliau'n noetham fod yr holl waith coed wedi ei rwygo allan.

15 Dyna ddaw o'r ddinas llawn mirioedd yn ofni neb na dim!Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! –Does neb tebyg i mi!”Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl –lle i anifeiliaid gwyllt gael byw!Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdioa gwneud ystumiau arni.

Penodau

1 2 3