Seffaneia 3 BNET

Barnu Jerwsalem

1 Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig,sy'n gormesu ei phobl!

2 Mae'n gwrthod gwrando ar neb,na derbyn cyngor.Dydy hi ddim yn trystio'r ARGLWYDDnac yn gofyn am arweiniad ei Duw.

3 Mae ei harweinwyr fel llewodyn rhuo yn ei chanol.Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nosyn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore.

4 Mae ei phroffwydi'n brolio ac yn twyllo.Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy'n sanctaidd,ac yn torri Cyfraith Duw.

5 Ac eto mae'r ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol.Dydy e'n gwneud dim sy'n annheg.Mae ei gyfiawnder i'w weld bob bore,mae mor amlwg a golau dydd.Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd.

6 “Dw i wedi dinistrio gwledydd erailla chwalu eu tyrau amddiffyn.Mae eu strydoedd yn wagheb neb yn cerdded arnyn nhw.Mae eu dinasoedd wedi eu difa.Does neb ar ôl, run enaid byw.

7 Meddyliais, ‘Byddi'n fy mharchu i nawr,a derbyn y cyngor dw i'n ei roi i ti!A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistriogan y gosb roeddwn wedi ei fwriadu.’Ond na, roedden nhw'n dal ar frysi wneud popeth sydd o'i le.”

8 Felly mae'r ARGLWYDD yn datgan,“Arhoswch chi amdana i!Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod.Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydda tywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw.Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!”

Yr ARGLWYDD yn bendithio'i bobl

9 “Yna bydda i'n rhoi geiriau glân i'r holl bobloedd,iddyn nhw i gyd addoli'r ARGLWYDD.A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda'i gilydd.

10 O'r tu draw i afonydd pell dwyrain Affricabydd y rhai sy'n gweddïo arna iyn dod ag anrhegion i mi.

11 Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat tiam yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i.Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio.Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i.

12 Bydda i'n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol,a byddan nhw'n trystio'r ARGLWYDD.

13 Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg,yn dweud dim celwydd nac yn twyllo.Byddan nhw fel defaid yn pori'n ddiogelac yn gorwedd heb neb i'w dychryn.”

14 Canwch yn llawen, bobl Seion!Gwaeddwch yn uchel bobl Israel!Byddwch lawen a gorfoleddwch â'ch holl galon,bobl Jerwsalem!

15 Mae'r ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd,ac yn cael gwared â dy elynion di.Bydd Brenin Israel yn dy ganola fydd dim rhaid i ti fod ag ofn.

16 Yr adeg hynny byddan nhw'n dweud wrth Jerwsalem,“Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio.

17 Mae'r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti,fel arwr i dy achub di.Bydd e wrth ei fodd gyda ti.Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad,ac yn dathlu a chanu'n llawen am dy fod yn ôl.”

18 “Bydda i'n casglu'r rhai sy'n galaru am y gwyliau,y rhai hynny mae'r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw.

19 Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin.Bydda i'n achub y defaid cloffac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl.Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmolyn lle codi cywilydd arnyn nhw.

20 Bryd hynny bydda i'n dod â chi'n ôl;bydda i'n eich casglu chi at eich gilydd.Byddwch chi'n enwog drwy'r byd i gyd,pan fydda i'n gwneud i chi lwyddo eto,”—meddai'r ARGLWYDD.

Penodau

1 2 3