4 Mae'r gyfraith wedi colli ei grym,a does dim cyfiawnder byth.Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed,a chyfiawnder wedi ei dwistio'n gam.”
5 “Edrychwch ar y cenhedloedd,a cewch sioc go iawn.Mae rhywbeth ar fin digwyddfyddwch chi ddim yn ei gredu,petai rhywun yn dweud wrthoch chi!
6 Dw i'n codi'r Babiloniaid –y genedl greulon a gwylltsy'n ysgubo ar draws y bydyn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.
7 Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb.Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnon.
8 Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard,ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos.Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr,ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.
9 Trais ydy eu hunig fwriad.Maen nhw'n hollol benderfynol,ac yn casglu carcharorion rif y tywod.
10 Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd,ac yn chwerthin ar lywodraethwyr.Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw;maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.