1 Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio,ac edrych allan o wal y ddinas.Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud,a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.”
2 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb:“Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi,i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd.
3 Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd;mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd.Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar –mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn.
4 A dyma'r neges:Mae'r gelyn mor falch a'i gymhellion yn ddrwg,ond bydd yr un cyfiawn yn byw trwy ei ffyddlondeb.
5 Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwympi'r gelyn balch, anfodlon.Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd;fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon.Dyna pam mae'r gelyn yn casgluac yn concro un wlad ar ôl y llall.
6 Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd!Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! –‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl!(Am faint mae hyn i ddigwydd?)Gwneud ei hun yn gyfoethogtrwy elwa ar draul eraill!’
7 Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhwyn codi heb unrhyw rybudd.Byddan nhw'n deffro'n sydyn,yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.