13 Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi datgan:Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi.Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.
14 Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD.
15 Gwae'r un sy'n gorfodi pobl erailli yfed y gwin sy'n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint.Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw'n noeth.
16 Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd!Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat.Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti!Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!
17 Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus!Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno;am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl,a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
18 Ydy delw wedi ei gerfio o unrhyw werth?Neu eilun o fetel sy'n camarwain pobl?Pam fyddai'r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio?Rhyw ‛dduw‛ diwerth sydd ddim yn gallu siarad!
19 Gwae'r un sy'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’Ydy peth felly'n gallu rhoi arweiniad?Mae wedi ei orchuddio'n grand gydag aur neu arian,ond does dim bywyd ynddo!