3 Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd;mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd.Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar –mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn.
4 A dyma'r neges:Mae'r gelyn mor falch a'i gymhellion yn ddrwg,ond bydd yr un cyfiawn yn byw trwy ei ffyddlondeb.
5 Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwympi'r gelyn balch, anfodlon.Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd;fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon.Dyna pam mae'r gelyn yn casgluac yn concro un wlad ar ôl y llall.
6 Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd!Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! –‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl!(Am faint mae hyn i ddigwydd?)Gwneud ei hun yn gyfoethogtrwy elwa ar draul eraill!’
7 Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhwyn codi heb unrhyw rybudd.Byddan nhw'n deffro'n sydyn,yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.
8 Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd,bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti.Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl,a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
9 Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teuludrwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill.Chi sydd wedi gwneud yn siŵrfod eich nyth eich hunain yn saff –yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.