9 Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teuludrwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill.Chi sydd wedi gwneud yn siŵrfod eich nyth eich hunain yn saff –yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.
10 Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu.Drwy ddinistrio cymaint o wledydddych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain.
11 Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan,a'r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn.
12 Gwae'r un sy'n tywallt gwaed i adeiladu dinas,ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder.
13 Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi datgan:Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi.Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.
14 Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD.
15 Gwae'r un sy'n gorfodi pobl erailli yfed y gwin sy'n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint.Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw'n noeth.