3 Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman;a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr,ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli.
4 Mae e'n disgleirio fel golau llachar.Daw mellten sy'n fforchio o'i law,lle mae'n cuddio ei nerth.
5 Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen,a haint yn ei ddilyn.
6 Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu;pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn.Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio,a'r bryniau oesol yn suddo,wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.
7 Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig,a llenni pebyll Midian yn crynu.
8 Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD?Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?Wyt ti wedi digio gyda'r môr?Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd?– cerbyd dy fuddugoliaeth.
9 Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.