8 Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD?Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?Wyt ti wedi digio gyda'r môr?Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd?– cerbyd dy fuddugoliaeth.
9 Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.
10 Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.Mae'n arllwys y glaw,a'r storm ar y môr yn rhuoa'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.
11 Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;mae fflachiadau dy saethau,a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.
12 Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,a sathru'r gwledydd dan draed.
13 Ti'n mynd allan i achub dy bobl;i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio.Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib
14 Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.Roedden nhw'n chwerthin a dathluwrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.