7 Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd,a does dim ar ôl o'r coed ffigys.Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd,a gadael y canghennau'n wynion.
8 Wylwch, a nadu'n uchel,fel merch ifanc yn galaru mewn sachliainam fod y dyn roedd hi ar fin ei briodiwedi marw.
9 Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r demlnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDDyn galaru.
10 Mae'r caeau'n wag.Does dim byd yn tyfu ar y tir.Does dim cnydau ŷd na haidd,dim grawnwin i roi ei sudd,a dim olew o'r olewydd.
11 Mae'r ffermwyr wedi anobeithio,a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo.Does dim ŷd na haidd yn tyfu;mae'r cnydau i gyd wedi methu.
12 Mae'r gwinwydd wedi crino,ac mae'r coed olewydd wedi gwywo.Does dim pomgranadau,dim datys, a dim afalau.Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino;Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!
13 Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru.Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor.Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain,am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml.Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawnnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.