Joel 1 BNET

Y pla locustiaid

1 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel.

2 Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr;a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw!Ydych chi wedi gweld y fath beth?Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?

3 Dwedwch wrth eich plant am y peth.Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw,a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.

4 Mae un haid o locustiaid ar ôl y llallwedi dinistrio'r cnydau i gyd!Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haidroedd yr haid nesaf yn ei fwyta!

5 Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crïo!Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo!Does dim ar ôl! Mae'r gwin melyswedi ei gymryd oddi arnoch.

6 Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad –gormod ohonyn nhw i'w cyfrif!Mae ganddyn nhw ddannedd fel llewneu lewes yn rhwygo'r ysglyfaeth.

7 Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd,a does dim ar ôl o'r coed ffigys.Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd,a gadael y canghennau'n wynion.

8 Wylwch, a nadu'n uchel,fel merch ifanc yn galaru mewn sachliainam fod y dyn roedd hi ar fin ei briodiwedi marw.

9 Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r demlnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDDyn galaru.

10 Mae'r caeau'n wag.Does dim byd yn tyfu ar y tir.Does dim cnydau ŷd na haidd,dim grawnwin i roi ei sudd,a dim olew o'r olewydd.

11 Mae'r ffermwyr wedi anobeithio,a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo.Does dim ŷd na haidd yn tyfu;mae'r cnydau i gyd wedi methu.

12 Mae'r gwinwydd wedi crino,ac mae'r coed olewydd wedi gwywo.Does dim pomgranadau,dim datys, a dim afalau.Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino;Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!

Galw'r bobl i droi yn ôl at Dduw

13 Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru.Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor.Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain,am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml.Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawnnac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.

14 Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio;yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.Dewch a'r arweinwyr a phawb arall at ei gilyddi deml yr ARGLWYDD eich Duw;dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD.

15 O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni!Bydd yn ddiwrnod ofnadwy!

16 Does gynnon ni ddim bwyd o'n blaenau,a dim byd i ddathlu'n llawen yn nheml Dduw!

17 Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear.Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio.Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw!

18 Mae'r anifeiliaid yn brefu'n daer.Mae'r gwartheg yn crwydro mewn dryswch,am fod dim porfa iddyn nhw.Mae hyd yn oed y defaid a'r geifr yn dioddef.

19 ARGLWYDD, dw i'n galw arnat ti am help.Mae'r tir pori fel petai tân wedi ei losgi;a fflamau wedi difetha'r coed i gyd.

20 Mae'r anifeiliaid gwylltion yn brefu arnat tiam fod pob ffynnon a nant wedi sychu,a thir pori'r anialwch wedi ei losgi gan dân.

Penodau

1 2 3