1 O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio.
2 Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti.
3 Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”
4 “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio,a'u caru nhw'n ddiamod.Dw i'n mynd i droi cefn ar fy nig.
5 Bydda i fel gwlith i Israel –bydd hi'n blodeuo fel saffrwn,a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.
6 Bydd ei blagur yn tyfu;bydd yn hardd fel coeden olewydd,a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7 Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8 Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto!Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”
9 Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall.Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod.Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn –bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.