1 Gwrandwch, chi offeiriaid!Daliwch sylw, bobl Israel!Clywch, chi'r teulu brenhinol!Mae'r farn ar fin dod arnoch!Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,a rhwyd i ddal pobl Tabor;
2 yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.
3 Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim.Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –mae Israel wedi ei llygru'n llwyr.
4 Mae eu drygioni'n eu rhwystrorhag troi yn ôl at eu Duw.Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu,a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
5 Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
6 Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDDgyda'i defaid a'u geifr a'u bustych.Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw.
7 Maen nhw wedi bradychu'r ARGLWYDDac maen nhw wedi cael plant siawns.Yn fuan iawn, ar Ŵyl y Lleuad Newydd,byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.
8 Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea!Canwch utgorn yn Rama!Rhybuddiwch bobl Beth-afen!Ti fydd gyntaf, Benjamin!
9 Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!Mae beth dw i'n ei ddweud wrth lwythau Israelyn mynd i ddigwydd.
10 Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir;a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!
11 Bydd Effraim yn cael ei orthrymu,a'i sathru pan fydda i'n barnu;am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.
12 Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim,fel pydredd i bobl Jwda.
13 Pan welodd Effraim ei fod yn sâl,a Jwda'n gweld ei ddolur,dyma Effraim yn troi at Asyriaam help gan ‛y brenin mawr‛.Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu.Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
14 Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda,fel llew yn rhwygo ei ysglyfaeth.Fi – ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnaua'i cario nhw i ffwrdd.Fydd neb yn gallu eu helpu.
15 Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffaunes byddan nhw'n cyfaddef eu bai.Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i;yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i: