Hosea 9 BNET

Addoliad paganaidd Israel

1 O Israel, stopia ddathlua gweiddi'n llawen fel y paganiaid;ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw.Ti'n hoffi derbyn cyflog putainwrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!

2 Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.

Y gaethglud yn gwrthdroi'r exodus

3 Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD.Bydd Effraim yn mynd yn ôl i'r Aifft,ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria.

4 Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD,nac offrymu aberthau iddo.Bydd yr aberthau'n aflan,fel bwyd pobl sy'n galaru;bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru.Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig;fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.

5 Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r ARGLWYDD?

6 Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,a Memffis yn eu claddu nhw.Bydd chwyn yn chwennych eu trysoraua mieri'n meddiannu eu tai.

7 Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!Mae dydd y farn wedi dod!Mae'n bryd i Israel wybod!“Mae'r proffwyd yn hurt!Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”Ti wedi pechu gymaint,ac mor llawn casineb!

Israel yn gwrthod neges y proffwyd

8 Mae'r proffwyd yn wyliwrdros Effraim ar ran Duw.Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.

9 Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,fel digwyddodd yn Gibea gynt.Bydd Duw yn delio gyda'u drygioniac yn eu cosbi am eu pechodau.

10 Roedd darganfod Israelfel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.I mi, roedd dy hynafiaidfel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus –cyn pen dim aethon nhw mor ffiaiddâ'r eilun roedden nhw'n ei addoli.

Y gosb i ddod

11 “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth!

12 Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw!

13 Roeddwn i'n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi ei phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw'n dod â'i plant allan i'w lladd.”

14 Rho iddyn nhw, ARGLWYDD – Ond beth roi di iddyn nhw? – Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu!

15 “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal,dw i'n eu casáu nhw.Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tiro achos eu holl ddrygioni.Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.

16 Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed –mae'r gwreiddyn wedi sychu;a does dim ffrwyth yn tyfu.A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant,byddwn i'n lladd eu babis bach del!”

17 Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhwam beidio gwrando arno;ac yn gwneud iddyn nhw grwydroar goll ymhlith y cenhedloedd!

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14