Hosea 12 BNET

1 Mae Effraim yn rhedeg ar ôl cysgodion –mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain!Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn.Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria,ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft!

2 Mae'r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda:bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn;talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.

3 Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth,a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!

4 Reslo gydag angel heb golli –crïo a pledio arno i'w fendithio.Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethela siarad gydag e yno –

5 Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw holl-bwerus!Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!

6 Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! –byw bywyd o gariad a chyfiawnder,a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.

7 Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo,maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.

8 Ac mae Effraim yn brolio:“Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr!A does neb yn gallu gweld y twyll,neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”

9 “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduwddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto,fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.

10 Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi –mewn gweledigaethau a negeseuon.”

11 Ydy Gilead yn addoli eilunod?Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl!Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal?Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrigmewn cae wedi ei aredig!

12 Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram –gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,a cadw defaid i dalu amdani.

13 Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwydi arwain Israel allan o'r Aifft,ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch.

14 Ond mae Effraim wedi ei bryfocio i ddigio.Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed,ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14