1 “Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr ARGLWYDD.Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu!Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!
2 Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig;bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd.Cawn fyw yn ei gwmni,
3 a'i nabod yn iawn.Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD.Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri.Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”
4 O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim?Beth wna i gyda chi, bobl Jwda?Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore,neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.
5 Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro.Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn.Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.
6 Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau!Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.
7 Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda!Maen nhw wedi fy mradychu i!
8 Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg,ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
9 Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron,yn cuddio i ymosod ar bobl –yn llofruddio ar y ffordd i Sichem.Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!
10 Dw i wedi gweld pobl Israelyn gwneud pethau cwbl ffiaidd!Mae Effraim yn puteinio –mae Israel wedi ei llygru'n llwyr!
11 Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda!Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;