Hosea 10 BNET

Gwrthod Addoliad Israel

1 Roedd Israel fel gwinwydden iacha'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,mwya o allorau a godwyd.Wrth i gnydau'r tir lwyddobyddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.

2 Maen nhw'n rhagrithio,felly byddan nhw'n cael eu cosbi.Bydd yr ARGLWYDD ei hunyn chwalu'r allorauac yn malu'r colofnau.

3 Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef,“Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD.Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”

4 Maen nhw'n llawn geiriau gwag,addewidion wedi eu torri,a chytundebau diwerth.Mae achosion llys yn lledufel chwyn gwenwynig mewn cae wedi ei aredig.

5 Bydd pobl Samaria yn ofnibeth ddigwydd i lo Beth-afen.Bydd y bobl yn galarugyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu,am fod ei ysblander wedi ei gipio,

6 a'i gario i Asyriayn anrheg i'r brenin mawr.Bydd Effraim yn destun sbort,ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.

Anufudd-dod a chosb Israel

7 Bydd Samaria'n cael ei dinistrio,a'i brenin yn cael ei gipiofel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.

8 Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd,“Cuddiwch ni!”ac wrth y bryniau,“Syrthiwch arnon ni!”

Yr ARGLWYDD yn cyhoeddi barn ar Israel

9 “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea?

10 A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.

11 Roedd Effraim fel heffer wedi ei hyfforddi,ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn.Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,a gêr i wneud i Effraim aredig.Bydd rhaid i Jwda arediga Jacob lyfnu'r tir ei hun!

12 Heuwch hadau cyfiawnder,a chewch gynhaeaf o gariad gen i.Trin tir eich calon galed –ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddodgyda chawodydd achubiaeth.

13 Ond rwyt wedi plannu drygioni,a medi anghyfiawnder,ac yna bwyta ffrwyth y twyll.Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel,a phwyso ar faint dy fyddin.

14 Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl,a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio.“Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant.

15 Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14