1 Chwythwch y corn hwrdd yn Seion;Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig!Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn,am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod.Ydy, mae'n agos!
2 Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;diwrnod o gymylau duon bygythiol.Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau.Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen,a welwn ni ddim byd tebyg byth eto.
3 Mae fflamau tân o'u cwmpas,yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd.Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden,ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith.Does dim posib dianc!
4 Maen nhw'n edrych fel ceffylau,ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5 Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfelyn rhuthro dros y bryniau;fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt,neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.
6 Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau;mae wynebau pawb yn troi'n welw o ofn.
7 Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsioac yn dringo i fyny'r waliau.Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledigdoes dim un yn gadael y rhengoedd.