11 Mae llais yr ARGLWYDD yn taranuwrth iddo arwain ei fyddin.Mae eu niferoedd yn enfawr!Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn.Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr;mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un?
12 Ond dyma neges yr ARGLWYDD:“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.Trowch yn ôl ata i o ddifri.Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau,a galaru am eich ymddygiad.
13 Rhwygwch eich calonnau,yn lle dim ond rhwygo eich dillad.”Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw!Mae e mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael,a ddim yn hoffi cosbi.
14 Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl.Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen!Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawnac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!
15 Chwythwch y corn hwrdd yn Seion!Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta;yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.
16 Casglwch y bobl i gyd,a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli.Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd.Dewch a'r plant yno, a'r babis bach.Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod –does neb i gadw draw!
17 Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD,wylo o'r cyntedd i'r allor,a gweddïo fel hyn:“ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl?Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort.Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni!Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud,‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”