20 Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd,ac yn ei wthio i dir sych a diffaith.Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain,a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.Yno y byddan nhw'n pydru,a bydd eu drewdod yn codi.”Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych!
21 Ti ddaear, paid bod ag ofn!Gelli ddathlu a bod yn llawen,am fod yr ARGLWYDD yn gwneud pethau mor wych!
22 Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn!Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori,ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed.Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.
23 Dathlwch chithau, bobl Seion!Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud!Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn –rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref,a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.
24 “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd,a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.
25 Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golliyn ôl i chi – popeth wnaeth y locustiaid ei fwyta;y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.
26 Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta.Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw,sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi.Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.