28 “Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbrydar y bobl i gyd.Bydd eich meibion a'ch merchedyn proffwydo;bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion,a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.
29 Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbrydar y gweision a'r morynion.
30 Bydd pethau rhyfeddol yn digwyddyn yr awyr ac ar y ddaear –gwaed a thân a cholofnau o fwg.
31 Bydd yr haul yn troi'n dywyll,a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaedcyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod,sef dydd barn yr ARGLWYDD.”
32 Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDDyn cael ei achub.Fel mae'r ARGLWYDD wedi addo: “ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.” Bydd rhai o'r bobl yn goroesi –pobl wedi eu galw gan yr ARGLWYDD.