4 Maen nhw'n edrych fel ceffylau,ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5 Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfelyn rhuthro dros y bryniau;fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt,neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.
6 Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau;mae wynebau pawb yn troi'n welw o ofn.
7 Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsioac yn dringo i fyny'r waliau.Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledigdoes dim un yn gadael y rhengoedd.
8 Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd;mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen.Dydy saethau a gwaywffynddim yn gallu eu stopio.
9 Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas,yn dringo dros y waliau,ac i mewn i'r tai.Maen nhw'n dringo i mewnfel lladron drwy'r ffenestri.
10 Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau,a'r awyr yn chwyrlïo.Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu,a'r sêr yn diflannu.