4 Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi!
5 Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi.
6 Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain.
7 Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi!
8 Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!
9 Cyhoedda wrth y cenhedloedd:Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.Galwch eich milwyr gorau!Dewch yn eich blaen i ymosod!
10 Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,a'ch crymanau tocio yn waywffyn.Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”