3 “Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD.
4 Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw.
5 Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.
6 Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn blingo'r anifail a'i dorri yn ddarnau.
7 Bydd yr offeiriaid yn rhoi tân ar yr allor ac yn gosod coed ar y tân.
8 Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân.
9 Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.