Lefiticus 2 BNET

Trefn offrymau o rawn

1 “Pan mae rhywun yn dod ag offrwm o rawn i'r ARGLWYDD, dylai ddefnyddio'r blawd gwenith gorau. Dylai dywallt olew olewydd arno ac wedyn rhoi thus arno.

2 Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o'r blawd gwenith a'r olew, a'r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

3 Mae'r offeiriaid, sef Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.

4 “Pan dych chi'n cyflwyno offrwm o fara wedi ei bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai'r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew.

5 “Os ydy'r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a dim burum.

6 Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn.

7 “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei goginio mewn olew olewydd.

8 Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi ei baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor.

9 Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi yn ernes ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

10 Mae'r offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.

11 “Does dim burum i gael ei ddefnyddio yn unrhyw offrwm o rawn sy'n cael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD. Dydy burum na mêl i gael eu defnyddio mewn offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD.

12 Gallwch eu rhoi nhw fel offrwm o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, ond ddylen nhw byth gael eu llosgi ar yr allor.

13 “Mae halen yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o ymrwymiad rhyngot ti a Duw. Felly paid anghofio rhoi halen ar dy offrwm o rawn. Rho halen ar bob offrwm wyt ti'n ei gyflwyno i Dduw.

14 “Os wyt ti'n dod ag offrwm o rawn cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, defnyddia rawn aeddfed meddal wedi ei rostio neu ei falu'n flawd.

15 Ychwanega olew olewydd ato, a rhoi thus arno – offrwm o rawn ydy e.

16 Wedyn mae'r offeiriad i losgi peth ohono fel ernes – y grawn wedi ei wasgu, yr olew a'r thus. Offrwm i gael ei losgi i'r ARGLWYDD ydy e.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27