8 Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân.
9 Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
10 “Os mai anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu fwch gafr – anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno.
11 Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
12 Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r brasder, mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor.
13 Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
14 “Os mai aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen ifanc.