11 A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi iddyn nhw drwy Moses.”
12 Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn.
13 Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.
14 Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael ei rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched ei fwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
15 Dyma'r darnau sy'n cael eu rhoi, gyda'r brasder sydd i'w losgi, yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Dyma'ch siâr chi a'ch plant bob amser. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.”
16 Buodd Moses yn edrych ym mhobman am fwch gafr yr offrwm i lanhau o bechod, ond darganfyddodd ei fod wedi cael ei losgi. Roedd e wedi digio gydag Eleasar ac Ithamar (y ddau fab oedd gan Aaron ar ôl).
17 “Pam wnaethoch chi ddim bwyta'r offrwm i lanhau o bechod yn y lle sydd wedi ei gysegru? Mae'r offrwm yn gysegredig iawn, ac mae Duw wedi ei roi i chi i dalu am ddrygioni'r bobl ac i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â'r ARGLWYDD.