3 A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e:‘Dw i am i'r offeiriaid ddangos fy mod i'n sanctaidd,a dw i am i'r bobl weld fy ysblander i.’”Roedd Aaron yn methu dweud gair.
4 Yna dyma Moses yn anfon am Mishael ac Eltsaffan (meibion Wssiel oedd yn ewythr i Aaron). A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch â dau gorff eich perthnasau allan o'r gwersyll, yn bell oddi wrth y fynedfa i'r Tabernacl.”
5 Felly dyma nhw'n llusgo'r ddau allan gerfydd eu dillad, fel roedd Moses wedi dweud.
6 A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i ddau fab arall, Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch galaru drwy adael i'ch gwallt hongian yn flêr, a drwy rwygo eich dillad. Os gwnewch chi byddwch chi'n marw, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig gyda'r bobl i gyd. Ond bydd pawb arall o bobl Israel yn galaru am y dynion wnaeth yr ARGLWYDD eu lladd gyda'r tân.
7 Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud.
8 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron:
9 “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid.