7 Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud.
8 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron:
9 “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid.
10 Rhaid i chi fedru gwahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.
11 A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi iddyn nhw drwy Moses.”
12 Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn.
13 Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.