1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,
2 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma pa anifeiliaid gewch chi fwyta:
3 Unrhyw anifail sydd â charn fforchog (wedi ei rhannu'n ddwy), ac sy'n cnoi cil.
4-6 Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan – er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog.
7 A peidiwch bwyta moch – mae ganddyn nhw garn fforchog, ond dŷn nhw ddim yn cnoi cil. Felly maen nhw hefyd i'w hystyried yn aflan.
8 Peidiwch bwyta cig yr anifeiliaid yma. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd y carcas. Maen nhw i'w hystyried yn aflan.
9 “‘Cewch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw hefyd. Sdim ots os ydyn nhw'n byw yn y môr neu mewn afon.